18 Awst 2005
Cynnig RhDC ar gyfer Ysbyty ar safle yn Aberpennar
Aseswyd datblygiad ysbyty awgrymedig ar gyfer Ymddiriedolaeth GIC Gogledd Morgannwg ar gyfer addasrwydd RhDC er mwyn rheoli llifoedd dwr wyneb wedi'r datblygu. Y mae safle 5-hectar yr ysbyty awgrymedig ar ddefnydd llanw uchel, wedi'i gyfyngu ar ddwy ochr gan Gynon. Oherwydd fod y brif afon hon mor agos, y mae ecoleg y safle'n agored i niwed, a rhaid rheoli gollyngiadau'n ofalus.
Astudiaeth Llifogydd
Yn Ionawr 2005, comisiynwyd Arup i ymgymryd ag astudiaeth llifogydd ar y safle, er mwyn canfod lefelau 1:1000 blynedd yr afon. Dyma un o ofynion 'NCT 15: Datblygu a Pherygl Llifogydd' ar gyfer datblygiadau yng Nghymru yr ystyrir eu bod ym mherygl llifogydd. Canfuwyd y gyfuchlin 1:1000 blynedd trwy greu model afon hydrolegol yn HEC RAS, gyda thrawsdoriadau gwely afon wedi eu canfod gan arolwg safle. Gellir lawrlwytho'r map cyfuchlin llifogydd, de, ac argymhellodd yr Asesiad Canlyniadau Llifogydd cefnogol na ddatblygir rhan ogledd-orllewinol y safle, gan ei bod o fewn y gorlifdir 1:1000 blynedd. Defnyddiwyd hwn i osod arwynebedd awgrymedig presennol isadeiledd yr ysbyty.
RhDC ar y safle
Yn Awst 2005, ymatebodd Arup i brif gynllun ac astudiaeth pen desg geodechnegol y safle trwy gynhyrchu Adroddiad Dichonoldeb RhDC ar gyfer y safle. Adolygodd yr adroddiad y safle yn ei gyd-destun penodol er mwyn canfod RhDC ar gyfer y safle. Yr oedd y mathau o RhDC a ystyriwyd yn cynnwys:
Wynebau hydraidd ar gyfer y ddau faes parcio;
Basnau a phyllau ymestyn;
Dyfeisiau treiddio;
Pantiau suddo;
Rhwydweithiau cynaeafu dwr glaw.
Oherwydd natur rhywfaint o'r defnydd llanw a phresenoldeb dyfrhaen isod, tueddai'r argymhellion i ymwrthod (er nad yn llwyr) â dyfeisiau treiddio. Yr oedd yr atebion amgen yn cynnwys cyfuniadau o feysydd parcio mandyllog gyda thanciau a phyllau ymestyn wedi eu cyfuno â thirweddu'r safle i gyfyngu ar ollyngiadau i Gynon. Y mae'r safle'n gymharol wastad, ac y mae'r lefel trwythiad rhyw 4m islaw lefelau'r ddaear, felly gellir mwyafu gofod storio gyda'r dyfeisiau hyn, heb orfod ystyried effeithiau brigwth dwr daear. Gellir lawrlwytho dau gynllun awgrymedig (de), a gall y cyfryw ffurfio argymhellion craidd yr adroddiad. |