Iaith Toggle
Hafan » Newyddion » Basn Atal Cynllun y Ddraig Goch   
9 Mai 2005

Golwg ar Gynllun y Ddraig Goch

Y mae Cynllun y Ddraig Goch yn Gyfleuster Cynnal Awyrennau Jet Cyflym Cyfun, wedi'i leoli yn RAF Sain Tathan, De Cymru. Y mae'r safle tua 5 milltir i'r gorllewin o Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd. Laing O'Rourke oedd y prif ymgymerwr a gafodd waith adeiladu'r cynllun ar gyfer y cwsmer, yr Asiantaeth Trwsio Awyrennu Amddiffyn (DARA). Arup oedd y prif ymgynghorydd ar gyfer y cynllun, yn darparu gwasanaeth gynllunio amlddisgyblaethol o'r dechrau i'r diwedd.

Wedi'i gwblhau yn 2004, y mae i'r safle ysgubor awyrennau enfawr 48 cilfach, adeilad cefnogaeth, cyfleusterau chwistrellu a thynnu paent, ac adeiladau cefnogaeth ategol. Golygai datblygu'r safle orchuddio tua 30 hectar â wyneb caled, gan orchuddio'r hyn fu, i bob diben, yn safle tir glas. Yr oedd angen ystyried draeniad y cyfleuster yn ofalus, gan ddwyn mewn cof posibilrwydd ehangu'r safle yn y dyfodol. Cydnabuwyd yn gynnar y byddai angen ymestyn llif y safle, er mwyn cyfyngu llifoedd at y cwrs dwr derbyn (Nant y Stepsau) i raddfa ollwng ganiataëdig Asiantaeth yr Amgylchedd (AyrA). Aseswyd fod y gyfradd hon yn gymharol i gyfradd dwr ffo Tir Glas (CTG) y dalgylch cyn y datblygu. Penderfynwyd mai basn atal fyddai'r ateb orau, o gofio maint y safle, a bod natur anaddas y tir yn golygu nad oedd modd defnyddio treiddio.

Basn Atal

Rhaid oedd lleoli'r basn atal at i waered o'r prif gyfleuster, er mwyn galluogi crynhoi llifoedd o'r safle a'u cyfeirio ymlaen tua'r ollyngfa mewn un bibell 1350mm o led. Oherwydd maint y basn angenrheidiol, prin iawn oedd y lleoliadau addas. Bu i'r un a ddewiswyd ddylanwadu ar ffurf y basn, gan y bu rhaid ei gynllunio ogylch ardal waharddedig perthynol i storfa ffrwydron rhyfel ar y safle. Dangosir y ffurf hwn, a graddoliad cynlluniedig y basn, ar y darlun atodedig.

Darperir y basn atal o'r neilltu, gan ganiatáu i lifoedd sydd islaw'r trothwy gollwng lifo heibio iddo a gollwng yn uniongyrchol i Nant y Stepsau. Fe'i lleolwyd o'r neilltu oherwydd nad oedd y cwsmer am ddenu adar i'r safle. Anodd, felly, fyddai cynnwys nodwedd barhaol wlyb yn y man hwn, o gofio natur y gweithgareddau o fewn y cyfleuster newydd. Cynlluniwyd y basn i storio digwyddiad glaw cyfnod dychwelyd 1:30 heb orlifo. Gall gynnwys tua 10,000m3, ac o ran maint gall ddygymod â llifoedd o ehangiad y safle yn y dyfodol.

Rheoli Llif

Gosodwyd llifddor reoli uwchlaw falfiau tagu llif y basn, gan ganiatáu i lifoedd mwy na'r CTG orlifo i'r basn. Gosodwyd y llifddor er caniatáu uchafswm cyfradd llif o 190l/e tan 3.68m o golofn, ychydig llai na'r ollyngfa ganiataëdig a gysylltir â CTG benodedig AyrA. Cynlluniwyd y basn â [sloping invert] i ganiatáu i ddwr ymestynedig lifo yn ôl i'r rhwydwaith ollwng unwaith y mae llifoedd wedi gostwng hyd at lefel derbyniol.

Amddiffyn Rhag Llygredd

Y mae'r basn hefyd yn amddiffyn rhag llygru'r safle a'r cwrs dwr derbyn pe bai argyfwng, megis pe bai gofyn defnyddio'r taenellwyr dwr atal tân yn un o'r ysguboriau awyrennau. Gellir cau o bell y falf argyfwng yn y siambr islaw'r basn, gan ganiatáu cadw llifoedd yn y basn ar gyfer eu harolygu.

Lleolir y cychwynnwr mewn ciosg GRP uwchlaw'r siambr, a gellir ei weithio â llaw o fan ar y ddaear uwchben, os byddai angen. Cysylltir y falf cychwynedig â'r BMS sy'n cynnwys y safle cyfan, a gellir ei gau o bell os byddai angen hynny fyth. Pan ar gau, cedwir llifoedd yn y basn ymestyn. Yna gellir profi'r dwr agored hwn ar gyfer llygryddion, cyn penderfynu un ai caniatáu iddo fynd tua'r ollyngfa neu'i bwmpio ymaith o'r safle. Aseswyd fod cynhwysedd 10,000m3 y basn yn ddigon i gynnwys arllwysiad mawr neu'r llif a ddeilliai o ddefnyddio taenellwyr yr ysguboriau awyrennau tros gyfnod hir.

Resources