|
Y mae Gweithgor RhDC Cymru'n cynnwys cynrychiolwyr cyrff sy'n cwmpasu holl agweddau rheoli dwr drycin a chynllunio draenio. Y mae'r Gweithgor yn hybu defnyddio RhDC gyda golwg ar wella ansawdd dwr, rheoli cyfaint dwr, darparu a gwella amwynderau, yn ogystal â hybu gallu pob cynefin i ffynnu hyd ei eithaf. Gall y Gweithgor hefyd ddarparu cyngor strategol ynghylch cynllunio a gweithredu cyfleusterau rheoli dwr drycin, a datblygiad polisïau.
Y mae RhDC yn atebion draeniad sy'n dynwared cyfundrefnau draenio naturiol, gan leihau effaith llifogydd a llygredd ar ddyfroedd derbyn. Defnyddia RhDC egwyddorion draenio sydd wedi eu hen sefydlu, ond yn aml ystyrir eu bod yn atebion arloesol i drafferthion draenio.
Addysg yw allwedd codi ymwybyddiaeth ynghylch RhDC. Y mae'r Gweithgor yn weithredol yn y maes hwn. Y mae'r daflen RhDC ar gael i'w lawrlwytho (de), ac fe'i dosbarthir gan Awdurdodau Lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth. Gwneir cyflwyniadau ledled y DU, ac fe'u sianelir trwy Adrannau Cynllunio. Y mae creu'r wefan hon, sy'n cynnwys cronfa wybodaeth RhDC, yn darparu mynediad at ddefnydd RhDC perthnasol a safleoedd lle y gweithredwyd cynlluniau RhDC yng Nghymru.
Y mae Gweithgor RhDC Cymru'n cynnwys cynrychiolwyr y cyrff canlynol:
• Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru • Dwr Cymru Welsh Water • Llywodraeth Cynulliad Cymru • Asiantaeth Datblygu Cymru • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru • Cyfundeb yr Adeiladwyr Cartrefi • CIWEM • Hyder Consulting Ltd Cysylltwyr
Bob Vaughan
AyrA (Cymru) Cadeirydd y Gweithgor Tel. 029 2077 0088
Jeremy Jones
CIWEM Ysgrifennydd y Gweithgor
Tel. 029 2056 3398
Mr Norman Fleming
Hyder Consulting Cynghorwr Technegol Tel. 0870 000 3001

      
|