Iaith Toggle
Hafan   

Cefndir

Y mae draeniad gynaliadwy yn syniad sy'n cynnwys ffactorau amgylcheddol a chymdeithasol tymor-hir mewn penderfyniadau ynghylch draeniad. Y mae'n dwyn mewn cof maint ac ansawdd y dwr ffo, a gwerth mwynderol dwr wyneb mewn amgylchedd trefol. Gall llawer o'r rhwydweithiau draenio trefol presennol achosi problemau llifogydd, llygredd neu ddifrodi'r amgylchedd, a gwelir nad ydynt yn gynaliadwy. Yn draddodiadol, cynllunnir y rhwydweithiau hyn i gludo dwr wyneb ffo o safleoedd datblygedig cyn gynted ag y bo modd a heb fawr ddim ystyriaeth ynghylch yr effeithiau ymhellach tua chyfeiriad y llif.

Y mae Rhwydweithiau Draenio Gynaliadwy (RhDC) yn darparu dull cyfun o fynd i'r afael â phroblemau cynllunio dwr wyneb, sy'n ystyried agweddau ansawdd, maint ac amwynder yn gyfartal. Cynrychiolir y dull cyfun hwn yn gyffredin gan driongl RhDC.

SuDS triangle

Cynhwysa'r term RhDC amrywiaeth eang o gyfleusterau draeniad trefol, o gyfleusterau pen-draw-pibell megis gwlyptiroedd neu byllau atal, i systemau rheoli ffynhonnell megis suddfannau, ffosydd a basnau treiddio, pantiau ac wynebau hydraidd.

Pam RhDC?

Y mae RhDC yn fwy gynaliadwy na rhwydweithiau draenio confensiynol, oherwydd fe'u cynllunnir i reoli cyfraddau llif, a gwarchod neu wella ansawdd y dwr. Y maent yn cydweddu â'r cefndir amgylcheddol ac ag anghenion y gymuned leol trwy reoli dwr glaw yn ei ffynhonnell (rheoli ffynhonnell) neu ledaenu llifoedd a rheoli gollyngiadau i ddwr ffo tir glas.

Derbynnir yn gyffredin yn awr nad yw draeniad ardaloedd datblygedig trwy rwydweithiau pibellog confensiynol yn gynaliadwy. Cynllunnir rhwydweithiau o'r fath yn aml ar gyfer symud dwr wyneb ffo ymaith o ardaloedd datblygedig cyn gynted ag y bo modd, heb fawr ddim ystyriaeth o'r gyfundrefn ddraenio neu ansawdd y dwr ymhellach tua chyfeiriad y llif. Mewn cyfnodau sychion pan fo'r llifoedd yn isel, gall gwaddodion gau'r rhwydweithiau hyn yn aml, gan achosi trafferth pan ddelo'r ddrycin nesaf. Cyfranna hyn at lifogydd a llygru cyrsiau dwr. Hefyd, trwy ddargyfeirio dwr glaw at rwydweithiau pibellog, lleiheir maint y dwr sy'n treiddio i'r tir, gan leihau dwr daear a llifoedd mewn cyrsiau dwr ar dywydd sych.

Y mae effaith llifogydd yn ddigon hysbys yng Nghymru, gyda thua 12% o'r stoc dai ym mherygl llifogydd. Nid yw llifogydd diweddar ond wedi amlygu'r broblem, ac y mae wynebu'r daroganau ynghylch newid hinsawdd ac angen diwallu'r galw am dai yn golygu bod rhaid wynebu'r pynciau. Y mae RhDC yn cynnig cyfle i reoli dwr wyneb, gan leihau'r effaith ar lifogydd a llygredd.

Sefydlwyd Gweithgor RhDC Cymru er mwyn darparu canolbwynt ar gyfer gweithredu RhDC yng Nghymru, ac fe'i cadeirir gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. Y mae'r gweithgor yn cynnwys yr holl randdeiliaid perthnasol sy'n cydweithio er mwyn hybu defnydd RhDC ar ddatblygiadau yng Nghymru. Y mae pynciau mabwysiadu a chynnal rhwydweithiau RhDC yn gymhleth, ond y mae yna ddatblygu arweiniad i lywio datblygwyr a chynllunwyr drwy'r ddrysfa.

Newyddion Diweddaraf
18 Chw 2010
view more >
 
27 Ion 2006
view more >
 
11 Hyd 2005
Ffordd Osgoi Newydd ar gyfer Sirhywi
view more >
 
18 Awst 2005
RhDC ar gyfer ysbyty newydd yn Aberpennar?
view more >
 
28 Mehef 2005
Depo Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cross Hands
view more >
 
21 Mehef 2005
Cynigion Datblygu RhDC y Felindre
view more >
 
14 Mehef 2005
NCD 15: Datblygu a Pherygl Llifogydd
view more >
 
11 Mai 2005
Cynllun Amgylcheddol Glan-yr-afon, Cydweli
view more >
 
10 Mai 2005
Ffordd Ffabian, Abertawe. Rhwydwaith Ddraenio Safle Parcio a Theithio.
view more >
 
09 Mai 2005
Basn Atal Cynllun y Ddraig Goch
view more >