Wyneb hydraidd
Wyneb wedi'i ffurfio o ddefnydd sydd ei hun yn anhydraidd i ddŵr, ond yn caniatáu treiddiad dŵr yn rhinwedd cyfundrefn gynhenid o wagleoedd wedi'u ffurfio trwy'r wyneb. Caniateir i ddŵr dreiddio trwyddo at is-haen waelodol, lle gellir ei gyfeirio i rwydwaith trawsgludo neu ganiatáu iddo dreiddio ymhellach i'r ddaear. Enghraifft dda o wyneb hydraidd yw'r system Formpave a ddarlunnir yma.
Gellir defnyddio'r system hon ar gyfer gwanhau llif os oes angen gollyngfa. Er mwyn cynyddu gofod storio o fewn yr is-haen waelodol, dylai'r wyneb adeiledig fod yn wastad. Y mae hyn yn gwneud y system yn un ddelfrydol ar gyfer meysydd parcio, gan nad oes angen creu ffugddisgyniadau er mwyn creu llwybr draeniad.
|